Julius Nepos
Julius Nepos | |
---|---|
Ganwyd | 430 Dalmatia |
Bu farw | 9 Mai 480 o clwyf drwy stabio Split |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Western Roman emperor, llywodraethwr |
Tad | Nepotianus |
Priod | wife of Julius Nepos |
Roedd Julius Nepos (c. 430–480) yn Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin (474–475 neu –480); yn ôl rhai ef oedd yr ymerawdwr De jure olaf.
Roedd Nepos yn ŵr i nith yr ymerawdwr yn y dwyrain, Leo, a dyma sut y cafodd yr enw nepos — "nai". Penododd Leo ef yn ymerawdwr yn y gorllewin yn 474, i roi diwedd ar deyrnasiad Glycerius.
Llwyddodd Nepos i ddod i gytundeb ag Euric, brenin y Fisigothiaid, ond roedd ei drafodaethau a Geiseric, brenin y Fandaliaid, yn llai llwyddiannus. Roedd Nepos yn ymerawdwr eithaf galluog, ond roedd yn amhoblogaidd gyda Senedd Rhufain oherwydd ei fod wedi ei apwyntio gan Leo. Ar 28 Awst, 475, cipiodd Orestes y magister militum, yr awenau, a gorfododd Nepos i ffoi i Dalmatia. Enwodd Orestes ei fab ei hun, Romulus Augustus, yn ymerawdwr.
Parhaodd Nepos i deyrnasu fel ymerawdwr yn Dalmatia, ac ef oedd yn cael ei ystyried fel y gwir ymerawdwr gan yr ymerodraeth yn y dwyrain.Pan gipiodd Odoacer ddinas Ravenna, gan ladd Orestes a diorseddu Romulus at 4 Medi, 476, cytunodd yr ymerawdwr yn y dwyrain, Zeno i'w dderbyn fel patricius yr ymerodraeth ar yr amod ei fod yn cydnabod Nepos fel ymerawdwr yn y gorllewin.
Tua 479, dechreuodd Nepos gynllwynio yn erbyn Odoacer, gan obeithio adennill rheolaeth ar yr Eidal, Llofruddiwyd ef gan ei filwyr ei hun yn 480.
Rhagflaenydd: Glycerius |
Ymerodron Rhufain yn y gorllewin | Olynydd: Romulus Augustus |